Luis Suárez

Suárez yn chwarae i dîm Olympaidd Wrwgwái yn 2011 Pêl-droediwr o Wrwgwái ydy Luis Suárez (ganwyd Luis Alberto Suárez Díaz ar 24 Ionawr, 1987) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i Wrwgwái.

Ymunodd Suárez â thîm ieuenctid Nacional yn 14 mlwydd oed gan ymddangos i'r tîm cyntaf am y tro cyntaf ym Mai 2005 pan yn 18 mlwydd oed yn erbyn Junior de Barranquilla o Colombia yng nghystadleuaeth y Copa Libertadores.

Roedd yn rhan o dîm Nacional enillodd Bencampwriaeth Wrwgwái yn 2005-06 cyn symud i Groningen o'r Iseldiroedd am €800,000 yn ystod yr haf 2006. Wedi dim ond tymor yn unig gyda Groningen, cynigiodd Ajax €3.5m amdano, ond gwrthododd Groningen y cynnig. Roedd Suárez yn flin a daeth ag achos ger bron pwyllgor cyfamodi Cymdeithas Bêl-droed Yr Iseldiroedd (KNVB) er mwyn ceisio sicrhau ei drosglwyddiad. Er i'r pwyllgor wrthod ei apêl, derbyniodd Groningen gynnig o €7.5m ar 9 Awst, 2007.

Yn ei bedwar tymor gydag Ajax llwyddodd i orffen yn brif sgoriwr yr Eredivisie yn 2009-10 gyda 35 gôl mewn 33 gêm a chafodd ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn Yr Iseldiroedd yn 2009 a 2010.

Yn Ionawr 2011, symudodd Suárez i Lerpwl am £22.8m.

Gwnaeth Suárez ei ymddangosiad cyntaf i Wrwgwái ar 8 Chwefror, 2007 mewn buddugoliaeth 3-1 dros Colombia, ond cafodd ei hel o'r maes wedi 85 munud am dderbyn ail gerdyn melyn. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Suárez, Luis', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3