Néstor Perlongher
Bardd yn yr iaith Sbaeneg ac anthropolegydd o'r Ariannin oedd Néstor Perlongher (25 Rhagfyr 1949 – 26 Tachwedd 1992).Ganwyd yn Avellaneda, yn Nhalaith Buenos Aires. Astudiodd ym Mhrifysgol Campinas yn São Paulo, Brasil.
Cyhoeddodd chwe chyfrol o gerddi sy'n nodweddiadol o farddoniaeth newydd-faróc. Mae ei benillion erotig yn debyg i weithiau'r beirdd o Giwba Lezama Lima a Severo Sarduy, a'i gerddi diweddarach yn archwilio perlewyg cyfriniol. Enillodd Wobr Boris Vian am ei ail gyfrol o farddoniaeth, ''Alambres'', yn 1987.
Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn São Paulo yn addysgu anthropoleg ym Mhrifysgol Campinas ac yn astudio rhywioldeb. Cyhoeddodd ddau lyfr ysgolheigaidd yn Bortiwgaleg yn 1987: ''O negócio do miché'' am buteindra gwrywaidd yn São Paulo, ac ''O que é Aids'' am yr afiechyd a fu'n dioddef ohono. Enillodd Wobr Guggenheim yn 1992 am ei brosiect i lunio ''auto sacramental'' (rhyw fath o ddrama firagl), gwaith a fu'n anorffenedig ganddo. Bu farw yn São Paulo o AIDS yn 42 oed. Darparwyd gan Wikipedia