Jacques Maritain

Athronydd Catholig o Ffrainc oedd Jacques Maritain (18 Tachwedd 188228 Ebrill 1973) sy'n nodedig am ei ddehongliadau o syniadaeth Tomos o Acwin ac am athroniaeth Domistaidd ei hunan.

Ganwyd ym Mharis, a chafodd ei fagu'n Brotestant. Astudiodd yn y Sorbonne ac yno dylanwadwyd arno gan y syniad nad oedd gwyddorau natur yn gallu ateb yr holl gwestiynau am oes a thranc dyn. Gyda'i gyd-fyfyriwr Raissa Oumansoff, Iddewes o Rwsia, mynychodd darlithoedd yr athronydd Henri Bergson a oedd yn arddel sythwelediaeth yn hytrach na gwyddonyddiaeth. Priododd Maritain â Oumansoff yn 1904, a dwyflwydd yn ddiweddarach troesant yn Gatholigion. Astudiodd Maritain fioleg ym Mhrifysgol Heidelberg o 1906 i 1908 cyn iddo ddychwelyd i Baris i astudio Tomistiaeth.

Dechreuodd addysgu yn yr Institut Catholique yn 1913, a daliodd swydd athro athroniaeth fodern o 1914 i 1939. Bu'n ddarlithydd blynyddol i'r Pontifical Institute of Mediaeval Studies ym Mhrifysgol Toronto o 1932 ymlaen, a hefyd yn athro gwadd ym mhrifysgolion Princeton (1941–42) a Columbia (1941–44). Gwasanaethodd yn llysgennad Ffrainc i Ddinas y Fatican o 1945 i 1948. Dychwelodd i Princeton i gymryd swydd athro athroniaeth o 1948 i 1960. Sefydlwyd Canolfan Jacques Maritain ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, yn 1958. Bu farw yn Toulouse yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Maritain, Jacques', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Christianisme et Democratie gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1943
    Llyfr
  2. 2

    Cuatro ensayos sobre el espíritu en su condición carnal gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1943
    Llyfr
  3. 3

    Distinguer pour unir ou les degrés du savoir gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1946
    Llyfr
  4. 4

    Para una filosofía de la persona humana gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1939
    Llyfr
  5. 5

    Siete lecciones sobre el ser gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1943
    Llyfr
  6. 6

    Tres reformadores gan Maritain, Jacques

    Cyhoeddwyd 1945
    Llyfr
  7. 7

    Christianisme et democratie = Cristianismo y democracia / gan Maritain, Jacques, 1882-1973

    Cyhoeddwyd 1943
    Anhysbys