Daniel Morgan

|dateformat=dmy}}

Arloeswr, milwr, a gwleidydd Americanaidd o Virginia oedd Daniel Morgan (6 Gorffennaf 17366 Gorffennaf 1802). Roedd yn dactegwyr dawnus ar feysydd brwydr Rhyfel Annibyniaeth America (1775–1783). Yn ddiweddarach bu’n bennaeth ar filwyr yn ystod ataliad y Gwrthryfel Wisgi (1791–1794).

Cymro o dras, yn enedigol o New Jersey, ymgartrefodd Morgan yn Winchester, Virginia. Daeth yn swyddog ym milisia Virginia a recriwtiodd gwmni o filwyr ar ddechrau'r Rhyfel Chwyldroadol. Yn gynnar yn y rhyfel, cymerodd Morgan ran yn alldaith Benedict Arnold i Quebec ac yn ymgyrch Saratoga. Gwasanaethodd hefyd yn ymgyrch Philadelphia ond ymddiswyddodd o'r fyddin ym 1779.

Dychwelodd Morgan i'r fyddin ar ôl Brwydr Camden, a bu’n arweinydd ar Fyddin y Cyfandir a fu’n fuddugol ym Mrwydr Cowpens. Ar ôl y rhyfel, ymddeolodd o'r fyddin eto i ddatblygu ystâd fawr. Fe'i galwyd yn ôl i wasanaeth milwrol yn 1794 i gynorthwyo atal y Gwrthryfel Wisgi, a bu’n ben ar garfan o'r fyddin a arhosodd yng Ngorllewin Pennsylvania ar ôl y gwrthryfel. Roedd yn aelod o'r Blaid Ffederal, a bu'n ymgeisydd i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ddwywaith, gan ennill sedd yn y Tŷ ym 1796. Ymddeolodd o'r Gyngres ym 1799 a bu farw ym 1802. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Morgan, Daniel', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Diagnóstico tecnológico del sector vivienda gan Pujol Mesalles, Rosendo

    Cyhoeddwyd 1984
    Awduron Eraill:
    Llyfr
  2. 2

    Costa Rica: la modernización capitalista de Guanacaste y el caso de la vivienda rural / gan Ducoudray, Louis

    Awduron Eraill:
    Texto